Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2017 Rhif (Cy. )

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 12 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas â’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â chofrestru yn y gofrestr a sefydlir ac a gynhelir gan Gyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”) o dan adran 9 o Ddeddf 2014.

Mae rheoliad 1 yn darparu bod y Rheoliadau yn dod i rym ar 1 Chwefror 2017 ac eithrio rheoliad 2 sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2017. Mae rheoliad 2 yn darparu bod Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2016 (“Rheoliadau 2016”) wedi eu dirymu. Felly, mae Rheoliadau 2016 wedi eu dirymu a hynny’n effeithiol o 1 Ebrill 2017.

Mae rheoliad 3 yn cynnwys y darpariaethau dehongli.

Mae’r ffioedd sy’n daladwy ar gyfer pob categori cofrestru wedi eu nodi yn rheoliad 4. Mae rheoliad 4 hefyd yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru bennu swm y cymhorthdal a roddir tuag at y ffioedd cofrestru hynny ac yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gyhoeddi swm y cymhorthdal hwnnw ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae rheoliad 5 yn caniatáu i’r Cyngor wneud darpariaeth mewn perthynas â’r ffioedd sy’n daladwy yn unol â’r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 6 yn darparu bod rhaid i gyflogwr, ar gais y Cyngor, gyflenwi i’r Cyngor yr wybodaeth a nodir yn yr Atodlen pan fo’n cyflogi neu fel arall yn cymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol berson y mae’n ofynnol iddo gael ei gofrestru.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwr sydd wedi cael ei hysbysu gan y Cyngor ddidynnu ffi gofrestru o gyflog person cofrestredig; ac mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyflogwr ei thalu i’r Cyngor o fewn 14 diwrnod.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyflogwr gyflenwi i’r Cyngor yr wybodaeth yn yr Atodlen mewn cysylltiad â’r person y telir y ffi iddo wrth dalu’r ffi iddo. 

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2017 Rhif (Cy. )

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017

Gwnaed                                                      

Yn dod i rym                        1 Chwefror 2017

 ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 1(1)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 12(1), 13(1) a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014([1]) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2017 ac eithrio rheoliad 2 a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2017.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu

2. Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2016([2]) wedi eu dirymu.

Dehongli

3. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Cofrestr” (“Register”) yw’r gofrestr a sefydlir ac a gynhelir o dan adran 9 o Ddeddf 2014; ac ystyr “cofrestru” (“registration”) yw cofrestru yn y Gofrestr;

ystyr “cyflogwr” (“employer”) yw person sy’n cyflogi person cofrestredig i ddarparu gwasanaethau perthnasol neu sy’n cymryd person cofrestredig ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol;

ystyr “darparwr dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning provider”) yw corff a nodir yn Atodlen 2 i Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016([3]);

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014;

ystyr “dyddiad hysbysu” (“notification date”) yw’r dyddiad yr hysbysir cyflogwr amdano gan y Cyngor fel y dyddiad y daw’r ffi yn daladwy;

ystyr “ffi” (“fee”) yw unrhyw ffi sy’n daladwy yn rhinwedd adran 12 o Ddeddf 2014;

ystyr “ffi’r categori cofrestru” (“category of registration fee”) yw’r ffi sy’n daladwy mewn perthynas â phob categori cofrestru a nodir yn rheoliad 4(1).

Swm y ffi gofrestru sy’n daladwy

4.(1)(1) Y ffi gofrestru sy’n daladwy ar gyfer y flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2017 ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2018 ac ar gyfer pob blwyddyn ar ôl hynny yw—

(a)     £46 y flwyddyn ar gyfer athro neu athrawes ysgol([4]);

(b)     £46 y flwyddyn ar gyfer gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol([5]);

(c)     £46 y flwyddyn ar gyfer athro neu athrawes addysg bellach([6]);

(d)     £46 y flwyddyn ar gyfer gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach([7]);

(e)     £46 y flwyddyn ar gyfer gweithiwr ieuenctid([8]);

(f)      £46 y flwyddyn ar gyfer gweithiwr cymorth ieuenctid([9]); ac

(g)     £46 y flwyddyn ar gyfer ymarferydd dysgu seiliedig ar waith([10]).

(2) Mae swm a bennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro i gael ei dalu tuag at y ffi sy’n daladwy yn unol â pharagraff (1).

(3) Rhaid i swm unrhyw gymhorthdal a bennir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (2) gael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

(4) Pan fo person yn gwneud cais i gael ei gofrestru neu ei fod wedi ei gofrestru mewn mwy nag un categori cofrestru—

(a)     dim ond un ffi categori cofrestru sy’n daladwy; a

(b)     ffi’r categori cofrestru sy’n daladwy yw’r uchaf o’r ffioedd hynny ar ôl ystyried unrhyw gymhorthdal a bennir yn unol â pharagraff (2).

Darpariaeth sydd i gael ei gwneud gan y Cyngor mewn perthynas â ffioedd

5. Caiff y Cyngor wneud darpariaeth—

(a)     i godi ac adennill ffioedd a bennir gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â—

                           (i)    ceisiadau i gofrestru neu i ailosod cofnodion yn y Gofrestr; a

                         (ii)    cadw cofnodion yn y Gofrestr; a

(b)     bod eithriadau ac esemptiadau pan na fo ffioedd yn cael eu codi.

Yr wybodaeth sydd i gael ei chyflenwi gan gyflogwr i’r Cyngor ar gais

6. Os gwneir cais gan y Cyngor, rhaid i gyflogwr roi’r manylion a bennir yn yr Atodlen iddo am unrhyw berson a gyflogir neu sydd fel arall wedi ei gymryd ymlaen gan y cyflogwr hwnnw i ddarparu gwasanaethau perthnasol ar ddyddiad a bennir gan y Cyngor ac y mae’n ofynnol iddo gael ei gofrestru yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adrannau 14 i 16 o Ddeddf 2014.

Didynnu ffi

7.(1)(1) Rhaid i gyflogwr person y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo sicrhau bod y ffi yn cael ei didynnu o’r cyflog a delir i’r person hwnnw yn union ar ôl y dyddiad hysbysu.

(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson y mae’r cyflogwr wedi cael hysbysiad (“hysbysiad talu”) gan y Cyngor mewn cysylltiad ag ef, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo sicrhau bod y ffi yn cael ei didynnu o gyflog y person hwnnw.

(3) Rhaid i hysbysiad talu bennu’r swm sydd i gael ei ddidynnu gan ystyried swm y cymhorthdal a bennir yn unol â rheoliad 4(2).

(4) Ni chaniateir i hysbysiad talu gael ei ddyroddi i gyflogwr ond os yw’r Cyngor wedi ei fodloni nad yw’r person y dyroddir yr hysbysiad mewn cysylltiad ag ef eisoes wedi talu’r ffi ar y dyddiad hysbysu ac—

(a)     bod y person wedi ei gofrestru yn y Gofrestr, neu

(b)     ei bod yn ofynnol i’r person gael ei gofrestru felly yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adrannau 14 i 16 o Ddeddf 2014.

 Talu ffioedd i’r Cyngor

8. Rhaid i’r cyflogwr, o fewn 14 diwrnod i’r ffi gael ei didynnu yn unol â rheoliad 5, dalu’r ffi honno i’r Cyngor.

Yr wybodaeth sydd i gael ei chyflenwi i’r Cyngor gan y cyflogwr gyda’r ffi

9. Wrth dalu’r ffi rhaid i’r cyflogwr roi i’r Cyngor y manylion a bennir yn yr Atodlen am y person y telir y ffi mewn perthynas ag ef.

Methu â chyflawni dyletswydd

10. Os yw person yn methu â chyflawni dyletswydd o fewn terfyn amser a bennir yn y Rheoliadau hyn, nid yw hynny’n rhyddhau’r person hwnnw o’r ddyletswydd honno.

 

 

 

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru

 

Dyddiad

                              


YR ATODLEN  Rheoliad 6

 YR WYBODAETH SYDD I GAEL EI CHYFLENWI I’R CYNGOR

1. Enw llawn y person.

2. Os yw’n hysbys, unrhyw enw a fu gan y person gynt.

3. Pa un yw’r person yn wryw neu’n fenyw.

4. Y rhif cofrestru swyddogol, os oes un, a neilltuwyd i’r person.

5. Enw’r ysgol neu’r sefydliad lle y mae’r person yn cael ei gyflogi neu lle y mae wedi ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol.

6. Mewn cysylltiad â gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid, enw cyflogwr y person.

7. Mewn cysylltiad ag ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith—

(a)     enw cyflogwr y person; a

(b)     pan na fo'r cyflogwr yn ddarparwr dysgu seiliedig ar waith, enw’r darparwr dysgu seiliedig ar waith y mae’r cyflogwr yn darparu dysgu seiliedig ar waith ar ei ran.

8. Rhif yswiriant gwladol y person.

9. Cyfeiriad cartref neu gyfeiriad cyswllt arall y person.

10. Dyddiad geni’r person.

11. Rhif ffôn a chyfeiriad post electronig y person (os ydynt ar gael).

12. Pan fo’r person wedi ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol drwy asiantaeth, enw’r asiantaeth honno.



([1])           2014 dccc 5.

([2])           O.S. 2016/27 (Cy.9).

([3])           O.S. 2016/1183 (Cy.288).

([4])           Fel y’i diffinnir yn rhes 1 o Dabl 1 yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014.

([5])           Fel y’i diffinnir yn rhes 2 o Dabl 1 yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014.

([6])           Fel y’i diffinnir yn rhes 3 o Dabl 1 yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014.

([7])           Fel y’i diffinnir yn rhes 4 o Dabl 1 yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014.

([8])           Fel y’i diffinnir yn rhes 5 o Dabl 1 yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014.

([9])           Fel y’i diffinnir yn rhes 6 o Dabl 1 yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014.

([10])         Fel y’i diffinnir yn rhes 7 o Dabl 1 yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014.